S4C joins ScreenSkills Unscripted TV Skills Fund, reinforcing Fund's commitment to training and development

S4C, the Welsh-language broadcaster, has joined ScreenSkills’ Unscripted TV Skills Fund, which works to strengthen the creative sector with new talent and skills in production across the UK.

S4C is the latest broadcaster/streamer to sign up to the fund, joining the BBC, Channel 4, Sky, A+E Network UK, Discovery UK, Channel 5, Netflix, Amazon, ITV, UKTV. The genres supported through the fund are specialist factual, general factual, factual entertainment, sport, entertainment, current affairs, arts and classical music, religion and ethics and education. 

“I am really delighted that S4C, the Welsh public service broadcaster is joining the fund,” commented Sarah Joyce, Head of Unscripted and Children’s TV for ScreenSkills. “Since its creation, the fund has been committed to developing a skilled production workforce across the whole of the UK and we look forward to working with our colleagues at S4C to make a real and sustainable impact behind the camera in productions across the whole of Wales.”

“We’re delighted to bring Welsh-language programming to the Unscripted TV Fund,” added Iwan England, S4C’s Head of Unscripted. “Talent development in Wales is a crucial part of S4C’s work and, by joining the Fund’s steering group, Welsh voices and the sector in Wales will be represented as the Fund’s work priorities are set.”

The Unscripted TV Fund was created in 2021 with a clear commitment to investing in training outside London. A minimum of 50% of the fund is invested to support training beneficiaries based in the nations and regions, rising to 100% in specific shortage areas. A minimum of 50% of the spend on training is awarded to out of London trainers, and this network has grown over the last two years. At least half of the membership of the fund’s council and working groups come from outside London representing all nations and regions, as well as the various genres supported by the fund. Additionally, a minimum of 50% of its beneficiaries have to meet at least one industry-recognised diversity and inclusion aim.

S4C YN YMUNO Â CHRONFA DELEDU DI-SGRIPT SCREENSKILLS, YN ATGYFNERTHU YMRWYMIAD Y GRONFA I GEFNOGI HYFFORDDIANT A DATBLYGIAD

Mae S4C, y darlledwr Cymraeg, wedi ymuno â Chronfa Deledu Di-Sgript ScreenSkills, sy’n gweithio i gryfhau’r sector creadigol gyda thalent a sgiliau newydd ym maes cynhurchu ar draws y Deyrnas Unedig.

S4C yw’r darlledwr diweddaraf i ymuno â’r gronfa, gan gynnwys y BBC, Channel 4, Sky, A+E Network UK, Discovery UK, Channel 5, Netflix, Amazon, ITV, a UKTV. Y genres sy’n cael eu cefnogi drwy'r gronfa yw ffeithiol arbenigol, ffeithiol cyffredinol, adloniant ffeithiol, chwaraeon, adloniant, materion cyfoes, y celfyddydau a cherddoriaeth glasurol, crefydd a moeseg ac addysg.

“Rwyf wrth fy modd bod S4C, y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg, yn ymuno â’r gronfa,” meddai Sarah Joyce, Pennaeth Di-Sgript a Theledu Plant ar gyfer ScreenSkills. “Ers ei sefydlu, mae’r gronfa wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu medrus yn y sector cynhyrchu ar draws y DU ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda S4C i gael effaith wirioneddol a chynaliadwy y tu ôl i’r camera ar gynyrchiadau ledled Cymru.”

“Rydym ni’n hynod o falch o ddod yn rhan o’r Gronfa Deledu Di-Sgript,” ychwanegodd Iwan England, Pennaeth Di-Sgript S4C. “Mae datblygu talent yng Nghymru yn rhan hanfodol o waith S4C, a thrwy ymuno â grŵp llywio’r Gronfa, bydd lleisiau Cymreig a’r sector yng Nghymru yn cael eu cynrychioli wrth i flaenoriaethau gwaith y Gronfa gael eu gosod.”

Cafodd y Gronfa Deledu Di-Sgript ei chreu yn 2021 gydag ymrwymiad clir i fuddsoddi mewn hyfforddiant y tu allan i Lundain. Mae o leiaf 50% o'r gronfa yn cael ei fuddsoddi i gefnogi darparwyr hyfforddiant yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau, gan godi i 100% mewn ardaloedd lle mae prinder penodol. Mae isafswm o 50% o'r gwariant a’r hyfforddiant yn cael ei roi i hyfforddwyr y tu allan i Lundain, ac mae'r rhwydwaith hwn wedi tyfu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Daw o leiaf hanner aelodaeth cyngor a gweithgorau’r gronfa o’r tu allan i Lundain gan gynrychioli’r holl wledydd a rhanbarthau, yn ogystal â’r genres amrywiol sy’n cael eu cefnogi gan y gronfa. Yn ogystal, mae'n rhaid i leiafswm o 50% o'r darparwyr hyfforddiant fodloni o leiaf un nod amrywiaeth a chynhwysiant a gydnabyddir gan y diwydiant.

Back to press releases