Mae ScreenSkills, mewn partneriaeth â S4C a TAC, wedi lansio dau gyfieithiad newydd i’r Gymraeg o’u modiwlau e-ddysgu llwyddiannus ar ddiogelu a thaclo bwlio ac aflonyddu, sydd wedi eu dylunio i wella hygyrchedd, cryfhau datblygiad sgiliau, ac i gefnogi twf y diwydiannau sgrin ar draws Cymru.
Bydd y cyfieithiadau o’r ddau fodiwl yn sicrhau bod adnoddau hyfforddi o ansawdd uchel ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, i greu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol a hygyrch i weithwyr newydd a phroffesiynol sy'n gweithio ar draws ffilm, teledu a chyfryngau digidol.
Mae’r modiwlau, sydd wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad gyda phartneriaid diwydiant yng Nghymru, yn dangos ymrwymiad ar y cyd i gefnogi datblygiad talent y sector sgrin yng Nghymru ac i sicrhau nad yw iaith yn rhwystr i dwf proffesiynol. Mae'r ddau fodiwl hefyd yn ffurfio rhan o Basbort Hyfforddiant ScreenSkills, sy'n golygu bydd gan weithwyr llawrydd gofnod digidol o’u hyfforddiant hanfodol, gan eu paratoi i weithio ar gynyrchiadau ar draws y DU.
Mae'r fenter yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol darpariaeth iaith Gymraeg o fewn y diwydiannau creadigol, ac yn cefnogi uchelgais ehangach i gryfhau sgiliau'r sector ar draws pob rhanbarth o Gymru.
Gellir dod o hyd i’r ddau fodiwl sydd wedi’u cyfieithu ar gyfeiriadur e-Ddysgu ScreenSkills, ble gall defnyddwyr ddewis defnyddio’r fersiwn Gymraeg neu Saesneg:
Mynd i'r afael ag aflonyddu a bwlio yn y gweithle
Dywedodd Hannah Roose/ Rheolwr Cydlynu Hyfforddiant Cymru ar ran ScreenSkills: “Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â TAC a S4C ar ran ScreenSkills i ddatblygu’r cyfieithiadau Cymraeg hyn o’n modiwlau e-ddysgu. Fel Cymraes ac yn ddysgwr Cymraeg, mae’r prosiect hwn yn golygu llawer i mi. Mae’n adlewyrchu pwysigrwydd iaith, diwylliant a hygyrchedd o fewn y diwydiannau sgrin yng Nghymru. Rwy’n teimlo’n falch ein bod yn medru cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau trwy’r iaith Gymraeg, ac mae’n gwneud datblygiad proffesiynol yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb yng Nghymru.”
Dywedodd Laura Mansfield Prif Weithredwr ScreenSkills: “Mae ScreenSkills wedi ymrwymo i hyrwyddo sgiliau a rhoi cyfle i bobl o bob cefndir wireddu eu potensial yn y diwydiant sgrin. Mae’n bwysig bod y sector sgrin yn gwbl gynhwysol ac yn adlewyrchu’r amrywiaeth o leisiau o bob rhan o’r DU. Rydym mor falch o fedru cynnig y modiwlau hyfforddi hyn yn yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau bod ein modiwlau hyfforddi ar gael ac yn hygyrch i bawb ar draws Cymru.”
Dywedodd Sara Peacock, Pennaeth Pwrpas Cymdeithasol S4C: “Mae’r cyfryngau Cymraeg yn rhan hanfodol o ecosystem cynhyrchu Cymru, ac yn S4C rydym yn cydnabod yr angen i'n cyflenwyr gael mynediad at hyfforddiant o ansawdd da trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth â TAC i ddarparu rhaglen hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, ac wrth ein bodd yn gweld yr hyfforddiant craidd hwn gan ScreenSkills ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf. Rydym yn cymryd lles o ddifri a byddem yn annog cymaint o bobl â phosib i gael mynediad at y cyrsiau Diogelu ac Atal Bwlio ac Aflonyddu yma. Mae mwyafrif o’n cymuned cynhyrchu yn siaradwyr Cymraeg, felly bydd cael y cyrsiau pwysig hyn ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn hwyluso mynediad at hyfforddiant i'r sector.”
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC: “Rwy'n hynod falch o sut mae'r fenter hon a'r cydweithrediad rhwng ScreenSkills, S4C a TAC wedi arwain at fodiwlau e-hyfforddiant hanfodol i fod ar gael yn yr iaith Gymraeg. Mae cefnogi'r sector cynhyrchu i ddarparu gweithle diogel a chynhwysol mor bwysig, ac mae sicrhau bod hyfforddiant ar gael yn y Gymraeg yn hanfodol i ddiwallu anghenion cynhyrchwyr a'r sector ddarlledu yng Nghymru. Mae llawer o gwmnïau cynhyrchu yng Nghymru yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae darparu hyfforddiant mewn iaith a ffefrir yn cynnig gwell ansawdd gwasanaeth gan arwain at ganlyniadau gwell. Mae partneriaeth hyfforddiant TAC S4C yn cynnig rhaglen gref i ddatblygu sgiliau a sicrhau bod cynyrchiadau yn ateb y safonau gofynnol, ac rwy'n croesawu'r bartneriaeth hon a'r cydweithio â ScreenSkills.”
Mae'r lansiad yn cefnogi ymdrechion parhaus i wella hygyrchedd a chynrychiolaeth o fewn diwydiannau sgrin y DU tra'n cydnabod hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol unigryw Cymru.