Mae ScreenSkills yn gofyn am adborth gan y diwydiant ynghylch eu gwaith yn datblygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n llywio datblygiad cymwysterau a phrentisiaethau yn y diwydiannau sgrin.
Yn ystod Ionawr a Chwefror 2026, rydym yn bwriadu ymgynghori gyda gweithwyr proffesiynol ledled y cenhedloedd ynghylch y cymwyseddau, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y diwydiannau sgrin yn ymwneud â rolau mewn cynyrchiadau. Diben hyn fyddai er mwyn diweddaru’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol newydd a datblygu rhai newydd sbon i adlewyrchu sut ddylai arfer gorau ymddangos i weithwyr fesul diwydiant.
Hoffem dderbyn eich adborth ar y safonau newydd canlynol:
- Cynhyrchu ar gyfer Ffilm a Theledu – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen i ategu logisteg, adnoddau a saethu cynyrchiadau drwy gydol y camau cynhyrchu o’r cam cyn-gynhyrchu (comisiynu) hyd at y cam ar ôl cynhyrchu (cyflawni). Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn yn ymdrin â’r rolau canlynol: Adran Cyfarwyddwyr Cynorthwyol: Rhedwr Sylfaenol, Rhedwr Llawr, Trydydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Ail Gyfarwyddwr Cynorthwyol, Ail Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Dorf, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyntaf, Adran Lleoliad: Cynorthwyydd Lleoliad, Rheolwr Uned, Cydlynydd Lleoliad, Rheolwr Lleoliad Cynorthwyol, Rheolwr Lleoliad, Rheolwr Lleoliad Goruchwyliol (Pennaeth Adran),
- Adran Gynhyrchu: Cynorthwyydd Cynhyrchu (Rhedwr), Ysgrifennydd Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu Cynorthwyol, Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwr Cynhyrchu, Cynhyrchydd Llinell.
- Ôl-gynhyrchu ar gyfer Ffilm a Theledu – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi’r broses ôl-gynhyrchu drwy olygu, dylunio sain, ac effeithiau gweledol. Gyda dyfodiad Cynhyrchu Rhithwir, gallai’r rhain ymddangos yn ystod y broses gynhyrchu yn ogystal ag ar ddiwedd y broses. Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn yn ymdrin â’r rolau canlynol: Cynorthwyydd Ôl-gynhyrchu, Cydlynydd Ôl-gynhyrchu, Goruchwyliwr Ôl-gynhyrchu, Cyfarwyddwr Ôl-gynhyrchu.
- Cyfrifeg Cynhyrchu – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen i reoli agweddau ariannol y cynhyrchiad, gan sicrhau caiff yr holl gostau eu cyfrifo a bod y prosiect yn cadw at y gyllideb. Mae cyfrifwyr cynyrchiadau’n chwarae rôl annatod yn y broses gynhyrchu, gan gynnig cymorth hanfodol i’r tîm cynhyrchu a sicrhau bod y prosiect yn llwyddiannus. Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn yn ymdrin â’r rolau canlynol: Derbynnydd Arian, Cynorthwyydd Cyfrifon, Cyfrifydd Cynhyrchu Cynorthwyol, Cyfrifydd Cynorthwyol Cyntaf, Cyfrifydd Cynhyrchu.
Er mwyn sicrhau bod y gyfres newydd o safonau’n ymdrin â’r hynny a ystyrir yn arfer gorau ar hyn o bryd yn y diwydiant, rydym yn annog gweithwyr proffesiynol y diwydiant i gyfrannu eu barn ynghylch y safonau drafft hyn drwy gyflwyno adborth erbyn 17 Chwefror 2026.
Ewch ati i fwrw golwg ar y safonau a chynnig sylwadau amdanyn nhw drwy glicio’r dolenni isod:
Cynhyrchu ar gyfer Ffilm a Theledu
Ôl-gynhyrchu ar gyfer Ffilm a Theledu
Gofynnwn yn garedig ichi wahodd eich cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol yn eich rhwydweithiau, a allai fod yn awyddus i leisio’u barn, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Diolch ymlaen llaw am roi o’ch amser.
Cysylltwch gyda krisztina.biliczky@screenskills.com i wybod mwy neu i rannu eich barn am y safonau.